17.6.05

Silver Tongue A. Shmoove

'Mai?

Nos wener aye. So, be ti'n mynd i neud am y peth? Dwi'm yn gorfod mynd allan ar y piss bob wicend jysd am bo chdi'n gneud. Jibbar? Edrych fel bo fi'n poeni? Pfft, taw.

Eshi i Blaena wicend dwytha. Gret. Minor hiccups yn sgil gweithredoedd gwallgo Math, ond dyna ni. Gwych o wicend. Bands yn gret, rym yn rhad, a mi geshi weld Delyth ar ei phenblwydd, which was nice (feri nais, deud gwir).

Ers hynny dwi heb fod yn gneud dim byd o gwbwl, heblaw barbyciw teuluol bach digon pleserus ddydd sul dwytha. Ella ai bysgota fory.

Debyg iawn y bydd yn rhaid chwilio am swydd yn y dyfodol agos, ond gan fy mod yn feistr ar gyflawni'r graddau eithaf o sod ol, dwnim be wnai. Joban ddreifio fasa'r boi. Dwi di clywed hanes un- fe gychwynodd tua 1973... aaah ffyc it.