14.12.05

Wy a wyr?

Heno 'na, ers misoedd maith.

Newydd fod yn cael cipolwg dros ambell un o'r blogiau difyrraf, a meddwl, "Myn cebyst i, y llabwst boliog, oni fasai'n syniad taro gair neu ddau ar dy un di dy hun?"

"Iawn" medda fi.

Adolygiad o lenyddiaeth i'w sgwennu heno, blant, a finna newydd ddychwelyd o drip digon dandi i Gaerdydd. Y Pogues a'r Dropkick Murphys yn y CIA oedd y prif atyniad (a chdi hefyd Delyth, cariad, wrth reswm) a mi wnes i eu mwynhau'n fawr, er fod y swn braidd yn iwsles. Lot o hwyl, a braf oedd cael cyfnod estynedig efo'r annwylyd yn y ddinas.

Prynais ful, a mae'n o'n pw-pw sigarets. Unbeatable.

Prynais beil o CDs hefyd, ac ambell vinyl. Geshi afael ar "Manassas" (Stephen Stills) yn Spillers, a Manassas 2 ar vinyl yn y farchnad fawr efo stondin bysgod siwperb, a caffi bach sy'n gwerthu ffagots (gafoni ffagots i ginio). Gret oedd hynny, gan mod i di planio prynu'r ddwy albym ers cryn amser.

Ffarwel, dof yn ol yn fuan efo rhywbeth gwerth chweil i'w ddeud, ond sgwennais hwn, jysd i chi wbod mod i dal yn fyw.

Gwbei
XxX