21.4.06

Saddle up the Palomino

Taloma wedi colli Sarabanda.
Mae'n antur.
Mae na Saethau ar y Paith.
Alltud o'r Cheyenne.
Pwy yw Brenin y Paith?

20.4.06

Stwnsh

Fi a Tatws yn cerdded rhwng y blodau law yn llaw yn sgipio canu dawnsio let her go let her go god bless her yn sboncio'n sionc wherever she may be yn cuddio rhag y gwenyn blin a'r bloda menyn yn llenwi sgrin ein llgada she may search this wide world over medda fo wrth i Tatws wichian yn braf llawn ofn o weld gloyn byw yn swatio yn ei brethyn but you ain't never gonna find a sweet man like me medda fi wrth Tatws.

Screwdriver

"mr holy hands blood in the sky said are you freedom man? we're young and fast lighting up the sky lighting up the sky"

mae'r cadfridog cariad yn cytuno efo fi.

hot!
hot!
hot!

have one yourself, chap.
will i get more if i stand on a chair and sing for you?

victory gin.

7.4.06

Jympyr wlan, pipell a seidar cartra

Pryna pryna frwshys, pryna baent, pryna ganfas.

Codi bwthyn, magu mul, ffurfio teyrnas.

Ffendia graig, ffendia abwyd, bacha s'godyn.

Tyf dy datws, tyf dy bys, yf dy win.

Rhyw sblash gan rhyw don ar rhyw graig dan fy nhraed. Dwi'n picio i'r cefn i chwara gitar. Ti di gorffan dy lun?

Jympyr wlan gynnas braf.

Macrall i swpar.

5.4.06

Sab-otage

Ohohohoho.

Mae Dai Sgaffalde mewn picil.

Ffwtlong

Mae isho i Subway neud bechdana 9".

Ma 6" yn nonsens, a mae 12" yn ofyrload ar brydiau.

A dwi'n sycyr am sweet onion sauce.

Mi wn nad ydi Subway'n gret. Ond mae o'n taro sbot ar brydiau, a dwi'n teimlo yn euog yn mynd am ffwtlong bob tro.

Naw modfedd amdani.

Mae'r bola'n swmpus.

Dwi am seiclo nol a mlaen o'r dafarn o hyn ymlaen er mwyn ymaflyd a'r bolws.

Yeehaa.

Sarabanda X

Tamaid

Rhyw damaid bach o fara i gadw'r crach yn fyw.

Mae dynion bach Sensible Soccer yn edrych fel cockles pan ma nhw'n gneud sliding tackles.

"I'd be completely absorbed by the music. We needed absolute quiet in the room while they were recording since the Kora is such a very quiet instrument. A song would end and you'd realise you'd been holding your breath. Hypnotised. It was terrible when those sessions ended. I wish I could have afternoons like that every day of my life, with the most sublime music just going on - forever."

In The Heart of the Moon

Mystery Girl

Eitha gwaith a'r pwdryn.

Sarabanda xxx